Beirniadaethau Gwaith Cartref 2026
Bydd y beirniadaethau barddoniaeth ar gael cyn hir
Y Gadair
Cynigir y gadair eleni am gerdd neu gasgliad o gerddi ar y testun ‘egin’. Daeth un deg chwech o ymgesion i law a hoffwn ddiolch o galon i’r holl feirdd am rannu ei gwaith a’u gweledigaeth. Daliwch ati bob un i sgwennu i ddarllen ac i fentro.
Fe fydd beirniadaeth unigol ar gael i’r sawl a fynn, ond rydw i canolbwyntio yma ar y tri ymgeisydd sy’n hawlio eu lle yn y dosbarth cyntaf, sef, Ffotosynthesis, Llywelyn ac Y Dyn dwad.
Dilyniant o gerddi caeth gawsom gan Ffotosynthesys am ddyn sy’n ymddeol o’i swydd ar ôl degawdau fel athro, ac sy’n poeni am sut y bydd yn dygymod gyda’r newid byd. Mae’r darlun mae’n ei greu o ddiflastod ei ddiwrnod olaf yn drawidol tu hwnt.
Hen fusnes anodd prosesu, – i weld
dy waith yn diflannu,
yn rhy hen i gyfrannu,
dal dawn, ond dyfodol du.
Mae ffotosynththesis yn gynganeddwr abl iawn ac mi roedd hi’n braf gweld y bardd yn arbrofi gyda’r mesurau er mwyn amrywio’r naws o gerdd i gerdd.
Efallai bod y rheswm dros newid agwedd mawr sy’n digwydd ar ganol y gerdd ddim wir yn cael ei archwilio ddigon, ond dyma’n sicir fardd medrus all drin y cynganeddion yn rhugl.
Bardd yn y wers rydd ydi Llywelyn, a cawsom bedair cerdd ganddo, pob un yn llais un o bedwar o brif gymeriadau 4edd cainc y mabinogi, sef Gwydion, Lleu Llaw gyffes, Gronw Pebr a Blodeuwedd. Mae’r bedair cerdd yn grefftus yn dangos adnabyddiaeth dda o’r chwedl ac yn gwahodd dehongliadau gan y darllenydd. Hoffais y drydedd gerdd yn llais Goronw yn enwedig, wrth iddo ddatgan yn drahaus:
Am ferched, mae pawb yn gwybod.
Mae addewid am bresant, neu noson befr,
neu dlws, neu dusw o flodau Mihangel
o siop y gornel neu’r garej-drwy’r-nos
yn ddigon i’w dofi. I’w swyno.
Dwi’n credu bod y bardd wedi taro ar syniad ragorol yma yn rhoi llais cyfoes i gymeriadau’r chwedl. Yn wir, dwi’n meddwl y baswn i wedi hoffi gweld y bardd yn datblygu’r cerddi ymhellach ac yn ychwanegu atynt i greu casgliad hwy o gerddi amrywiol ac mwy uchelgeisiol. Dwi’n synhwro bod na fwy i’w ddweud yma er mwyn gwneud cyfiawnder â’r syniad.
Mae ‘Y Dyn dwad’ yn cyflwyno ei awdl er cof am y diweddar Michael Jones, ymgyrchydd o blaid addysg Gymraeg yng Nghaerdydd, a chyn lywodraethwr yr ysgol hon, a fu farw ym Mai 2025.
Mae’r awdl yn cychwyn gydag ymweliad y bardd i bentref Glan Mor yn y gorllewin, ganol gaeaf, a darlun digon llwm a gawn o’r lle.
Pentref lle bu’n cartrefi,
aeth nawr mor ddierth i ni -
Rhyw alar sy’n yr heli.
Y banc sy’n Air B n B –
A’n aelwyd sy’n ddideulu.
Absennol Ysgol y wlad -
Ai’n dyfodol - difodiad?
Ond mae’r dyn dwad yn mynd yn ei flaen i gyferbynu marweidd-dra’r pentref glan mor gyda bwrlwm cymreictod Caerdydd yn sgil twf addysg Gymraeg yn y ddinas, diolch i waith ymgyrchwyr fel Michael Jones.
Rhoddodd oes i hau’r ardd hon
Ac elwa ei hysgolion.
Glan Taf yw glyn ein tyfiant
Sy’n tynnu’r blagur o blant.
Ar ddiwedd y gerdd mae’r Dyn dwad yn ein anog a’n herio ninnau i ni gymryd yr egin hwnnw a’i drawsblannu i rannau eraill o Gymru.
Eleni rhaid trawsblannu
O’n diff -iaith, i’n diffeithwch-
Derw’r llais i dir y llwch.
Rhoi llaw i’r rhaw yw yr her
A’n cefen i bob cyfer.
Efallai bod byd olwg, delweddiaeth a chenadwri’r dyn dwad yn eithaf cyfarwydd i ni ffans canu caeth y dwthwn hwn. Serch hynny does dim dadlau gyda thaerineb y gerdd na pha mor effeithiol y mae’r dyn dwad yn defnyddio’i grefft fel bardd a chynganeddwr wrth greu naws, datblygu delwedd ac wrth rannu ei genadwri.
Felly pwy sy’n mynd a hi? Cystadleuaeth rhwng Llywelyn a’r dyn dwad ydi hi i mi. Mae gennyf barch mawr at grefft ac uchelgais Llywelyn wrth drin y wers rydd, ond yn y pen draw mae awdl loyw, ddisgybledig a chwbl daer Y dyn dwad yn gyfanwaith fwy llwyddianus. Mae hi hefyd yn gerdd goffa deilwng i un wnaeth gyfraniad amhrisiadwy i dwf addysg Gymraeg yng Nghaerdydd. Am y rhesymau hynny, rydw i’n berffaith sicir mae enillydd teilwng Cadair Eisteddfod Caerdydd 2026 yw Y Dyn Dwad.
Y Fedal ryddiaith
Eisteddfod Caerdydd 2026
Y dasg eleni oedd cyfansoddi darn o ryddiaith heb fod dros 2000 gair ar y testun Mur neu Muriau. Daeth 11 i ymgais i law ac roedd pawb wedi cyflwyno eu gwaith yn raenus ac wedi darllen dros eu gwaith yn drwyadl. Roedd y safon ar y cyfan yn dda ac roedd hi’n braf gweld fod yn ymgeiswyr wedi dilyn eu dychymyg i bob math o gyfeiriadau. Roedd yna daith i Ferlin, ymson merch oedd yn chwarae pêl-droed i Gymru ac mwy nag un wedi gweld y testun fel cyfle i drafod cymdogion trafferthus sy’n gwneud bywyd yn anodd!
Roedd llawer o’r darnau yn nhafodiaith y gogledd ac roedd na ddigon o ddoniolwch a ffraethineb drwyddi draw ymhlith gwaith yr ymgeiswyr, oedd yn rhywbeth i’w ganmol yn fawr. Gwelais un darn yr oeddwn yn cofio ei weld mewn cystadleuaeth o’r blaen – mae beirniaid yn cofio ac yn disgwyl gweld gwaith gwreiddiol i’r gystadleuaeth os gwelwch yn dda! Roedd naws y Nadolig ar waith mwy nag un ymgeisydd, a oedd yn ddigon naturiol o ystyried y dyddiad cau ac roedd hynny’n braf i’w weld ac hefyd yn awgrymu fod yma waith ffres a sgwennwyd yn arbennig i ateb gofynion y gystadleuaeth benodol hon.
Cyflwynodd un ymgeisydd gyfres o ddarnau byr o lenyddiaeth, fel llên meicro, roedd ymgais arall yn debycach i gerdd ac un arall yn sgript ac er bod ‘darn o ryddiaith’ yn weddol amwys o ran ffurf, ro’n i’n teimlo bod y darnau yma yn gwthio ffiniau’r gofynion.
Roedd tair ymgais yn codi i dir uwchlaw’r gweddill yn fy marn i ac fel ym mhob cystadleuaeth lenyddol, mae’n rhaid cydnabod fod chwaeth y beirniad yn ffactor fawr yn hynny. Dyma’r ceisiadau a gydiodd yn fy nychymyg ac arhosodd yn fy nghof.
Ysgrifennodd Noa stori fer daclus iawn yn y person cyntaf yn adrodd hanes cymeriad alltud sy’n dychwelyd i gapel y teulu ar gyfer cyngerdd Nadolig. Mae’r ffordd mae’r awdur yn datgelu fod y cymeriad yn galaru am y fam ac mai’r tro diwethaf y bu yn y capel oedd ar gyfer ei hangladd yn feistrolgar. Mae’r sefyllfa’n gyfarwydd, y cymeriadau’n argyhoeddi a’r cydbwysedd rhwng y llon a'r lleddf wedi ei wau yn gelfydd.
Mae dawn Unarddeg yn amlwg a’i sylwgarwch wrth drafod cymeriadau yn cymell y darllenydd i ddarllen ymlaen. Down i adnabod dau set o gymdogion; gŵr a gwraig a’u plant sydd wedi symud o Fryste i gefn gwlad Cymru a Mr a Mr Prydderch, hoelion wyth y gymuned. Mae Mr Prydderch yn arweinydd corawl godinebus a’i ymddygiad hunanol, hunanbwysig a phenstiff yn achosi i’w wraig, Catrin, o’r diwedd, golli pob amynedd ac ymateb mewn ffordd eithafol. Fe wnes i fwynhau darllen y gwaith yma yn fawr ond tybed oes gormod yn digwydd yma ar gyfer stori dwy fil o eiriau. Mae digon o sgôp am nofel a marchnad ar ei chyfer ddwedwn i! Oherwydd y diffyg gofod efallai, roedd y stori yn neidio o’r naill deulu i’r llall yn rhy sydyn ar brydiau, gan achosi dryswch i’r darllenydd ond mae yma awdur ardderchog a syniad dyfeisgar ac apelgar.
Ond yn dod i’r brig, o drwch blewyn, mae Rhiniog. Mae ei syniad yn syml wrth i ni ddilyn meddyliau cymeriad oedrannus sy’n byw yng Nghaernarfon. Mae’n noson y Nadolig a’r prif beth sy’n poeni’r gŵr yw fod ei gaffi lleol, sy’n noddfa iddo, ar gau dros yr ŵyl. Does dim llaeth yn y tŷ i wneud paned ac mae’n ymddangos fod ei deulu wedi anghofio amdano ac yn awyddus iddo fynd i fyw i gartref henoed. Ydi, mae’n stori dorcalonnus ond mae cymeriad y dyn yn pefrio gyda disgrifiadau ffraeth ymhob llinell, bron. Mae’n disgrifio’r Tesco yn y dref fel ‘Rêl cwt ieir’ gan gwyno fod y gwasanaeth yn amhersonol gan y ferch wrth y til sy’n ‘Cnoi ryw gyflath fatha ceffyl chwaral’. Mae’r darlun yn un annwyl, yn un trist gyda phob gair yn ei le.
Felly mewn cystadleuaeth safonol ac agos, mae Medal Ryddiaith Eisteddfod Caerdydd eleni yn mynd i Rhiniog.
- Tlws yr ifanc
Ysgrifennu cerdd gaeth neu rydd neu ddarn o ryddiaith, ar y testun ‘Addewid’ oedd y dasg i’r cystadleuwyr eleni a dim ond un ymgais gafodd ei chyflwyno sef stori o’r enw ‘Y Geiriau Olaf’ gan Beuno. Hanes swynol Begw a’i nain, Mair, sydd yn y stori wrth i Begw geisio adfywio ‘yr hen iaith’, sef yr iaith y mae ei nain a’i thaid yn ei harddel ond sydd wedi mynd yn angof ymhlith pobl ifanc. Mae Beuno yn awdur sylwgar sydd wedi llwyddo i ysgrifennu stori dyner a theimladwy. Mae’r adrannau gwahanol yn cynnig amrywiaeth ond rydym yn dychwelyd at y nain yn y diwedd er mwyn creu clo taclus i’r stori. Mae’r trosiad o’r afon yn gweithio’n effeithiol ac yn cynnal undod trwy’r gwaith i gyd. Dyma lenor talentog sy’n llawn haeddu Tlws yr ifanc Eisteddfod Caerdydd a phob lwc iddynt wrth barhau i lenydda yn y dyfodol.
- Rhyddiaith blwyddyn 2 i 4
Dim ond dwy ymgais ddaeth i law yn y gystadleuaeth yma, a’r rheiny gan yr un ymgeisydd, sef Lolipop o’r Gorllewin. Roedd y ddwy stori yn ardderchog; yn raenus ac yn llawn dychymyg a chymeriad. Er cystal oedd y stori am gystadlu ar y dawnsio disgo mewn dillad ‘sbarcli’ yn Eisteddfod yr Urdd a’r anffawd ddigwyddodd, roedd yn well gen i’r stori arall o fymryn. Ynddi cawn hanes Andrea o Abercalon sy’n darganfod asgwrn deinosor go angyffredin ar y traeth. Gwych iawn yn wir!
- Rhyddiaith blwyddyn 5 a 6
Daeth un ymgeisydd i law, sef Mr Mochyn Tew gyda’i stori ar y thema ‘Perthyn’, Merch y stryd. Dyma awdur uchelgeisiol iawn. Mae’r stori wedi ei rhannu’n bedair pennod ac yn cynnwys lluniau i fynd gyda’r stori hefyd. Hanes Eira sydd yma, sy’n byw ger Bordeaux yn Ffrainc yn ystod Oes Fictoria. Mae’n colli ei chyfoeth i gyd ac yn sgil hynny, mae’n colli ei chariad. Dyma stori ramantus yn llawn drama sy’n gwneud i ni feddwl beth yw’r pethau sy’n bwysig mewn gwirionedd. Mae yma ôl meddwl a dychymyg byw ac mae’r awdur yn bendant yn haeddu’r wobr.
- Rhyddiaith blwyddyn 7 i 9
Daeth 5 ymgais i law. Mae Rhywun wedi ysgrifennu disgrifiad o’r pedwar tymor drwy un ffenest sy’n safonol ond nid y syniad mwyaf gwreiddiol o bosib. Dyddiadur byr sydd gan Cris Trwyn Eang sy’n disgrifio diwrnod o eira. Mae ymgeision Carol Swyn a Cath Clyfar Cymru ill dwy yn codi i dir uwch ac yn ddarnau mwy estynedig o waith. Maent wedi eu hysgrifennu’n dda ac yn frawychus mewn ffyrdd gwahanol. Nid yw diweddglo Carol Swyn yn gorffen gyda digon o ddatrysiad ac mae wedi ei frysio braidd, ac mae’n teimlo fel bod Cath Clyfar Cymru wedi defnyddio stori oedd ganddynt yn barod gan ei haddasu i gynnwys y thema ‘tymor’. Yn fuddugol felly mae Draenog Pigog am ymson draenog drwy’r tymhorau. Mae’n annwyl, yn ddidwyll ac er fod y gwaith yn llai uchelgeisiol na rhai o’r darnau eraill yn y gystadleuaeth, mae’n lwyddo yn ei amcan yn dda.
- Rhyddiaith blwyddyn 10 i 13
Gwych oedd gweld bod 8 ymgais wedi dod i law yn y gystadleuaeth yma, yn enwedig o ystyried mor brysur yw’n pobl ifanc ni heddiw. Roedd pob ymgais yn reit fyr a byddai wedi bod yn braf gweld yr awduron yn herio eu hunain i ysgrifennu darn mwy estynedig ond fel y dywedais, maen nhw’n bobl brysur. Aeth y rhan fwyaf ati i ddehongli’r testun, sef ‘Cyfoeth’ mewn ffordd reit llythrennol yn hytrach na throsiadol gan fyfyrio, os nad bogail syllu ar ystyr y gair. Felly fel beirniad, oedd wedi darllen sawl darn tebyg, roeddwn falch iawn o weld ymgais Eirinen Wlanog a aeth at y pwnc mewn ffordd wahanol gyda dyddiadur aeddfed a theimladwy person ifanc sydd wedi colli rhiant. Er mai darn byr, fel y lleill, sydd yma, mae newid meddwl y cymeriad i’w weld erbyn cyrraedd y diwedd a’r ysgrifennu’n yn ddiffuant ac sensitif. Mae’r wobr felly yn mynd i Eirinen Wlanog.
- Llên meicro
Roedd oes aur llên meicro yn Gymraeg tua 2004 ond mae’n bosib fod y ffurf yn cael rhywfaint o adfywiad ers i gyfrol Bryn Jones, Cuddliwio, ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd. Mae’n rhaid i unrhyw awdur sy’n awyddus i ysgrifennu llên meicro feddu ar y gallu i fod yn gynnil ac awgrymu a chreu naws mewn nifer fechan o eiriau. Roeddwn wedi gobeithio cael sawl darn byr (yn fras iawn hyd at 300 gair) o lên meicro ond un darn hirach ges i gan bob ymgeisydd. Doedd yr arddull ddim yn ddigon cynnil gan yr ymgeiswyr bron i gyd chwaith, gydag ymgais Hedyn yn fwy o stori, ymgais Perein Llwyd yn fwy o gerdd, ac erthygl oedd gan Gwawr. Ymgais Breuddwydiwr sy’n ennill y gystadleuaeth. Dyma awdur dawnus sy’n disgrifio llong yn cael ei hysbeilio yn llawn naws ac mae’r diweddglo yn annisgwyl ac yn effeithio.
- Adolygiad
Cafodd dau adolygiad safonol iawn eu cyflwyno i’r gystadleuaeth. Penderfynodd Bywiog adolygu Cyfrol fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen 2025, Anfarwol gan Peredur Glyn. Mae yma gydbwysedd da rhwng rhoi gwybodaeth am gefndir y nofel a chynnig barn bersonol a dwi’n hoffi’r ffordd y mae pytiau o farn eraill am y nofel hefyd yn cael ei gynnwys. Mae’r arddull yn gynnes a does dim malu awyr yma mewn crynodeb defnyddiol a diddan. Llwybr Cadfan: O Dywyn i Ynys Enlli, cyfrol wedi ei golygu gan Sian Northey, Siôn Aled ac Elin Owen sy’n cael sylw Esgidiau Cerdded ac mae yma ddadansoddiad cynhwysfawr a chytbwys o gynnwys y llyfr. Mae’r diwyg yn cael ei dafoli ac mae’r adolygydd yn dyfynnu’n fwriadus o’r llyfr hefyd. Llwyddodd i godi chwant darllen arnaf heb ddatgelu dim byd fydd yn tynnu oddi ar y profiad. Mae’r ddau adolygiad gystal â’i gilydd felly mae’r wobr yn cael ei rhannu rhwng Bywiog ac Esgidiau Cerdded.
- Rhyddiaith y dysgwyr
Daeth 6 ymgais i law gyda phob un yn rhoi adroddiad o wyliau diweddar. Roedd hi’n ymddangos fod yr ymgeiswyr i gyd mewn man go debyg ar eu siwrnau i ddysgu’r iaith ac chefais bleser o ddarllen am eu hanturiaethau i lefydd fel Cyprus, Portiwgal, Efrog Newydd a Gwlad Groeg gyda sawl un wedi cyflwyno’r gwaith yn hyfryd gyda llun cefndirol. O drwch blewyn, ymgais Tila Masters sy’n mynd â hi am ei hadroddiad manwl, naturiol a chywir o’i thaith i Lanzarote. Llongyfarchiadau i bawb gystadlodd.
- Tlws yr ifanc
Ysgrifennu cerdd gaeth neu rydd neu ddarn o ryddiaith, ar y testun ‘Addewid’ oedd y dasg i’r cystadleuwyr eleni a dim ond un ymgais gafodd ei chyflwyno sef stori o’r enw ‘Y Geiriau Olaf’ gan Beuno. Hanes swynol Begw a’i nain, Mair, sydd yn y stori wrth i Begw geisio adfywio ‘yr hen iaith’, sef yr iaith y mae ei nain a’i thaid yn ei harddel ond sydd wedi mynd yn angof ymhlith pobl ifanc. Mae Beuno yn awdur sylwgar sydd wedi llwyddo i ysgrifennu stori dyner a theimladwy. Mae’r adrannau gwahanol yn cynnig amrywiaeth ond rydym yn dychwelyd at y nain yn y diwedd er mwyn creu clo taclus i’r stori. Mae’r trosiad o’r afon yn gweithio’n effeithiol ac yn cynnal undod trwy’r gwaith i gyd. Dyma lenor talentog sy’n llawn haeddu Tlws yr ifanc Eisteddfod Caerdydd a phob lwc iddynt wrth barhau i lenydda yn y dyfodol.
